Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel |
|
|
|||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 21 Hydref 2015 |
|
||||
Amser: |
12.15 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: AC(4)2015(12) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler AC (Cadeirydd) Peter Black AC Angela Burns AC Sandy Mewies AC Rhodri Glyn Thomas AC |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau Nicola Callow, Cyfarwyddwr Cyllid Carys Evans, Pennaeth Cyswllt a Datblygiad Proffesiynol yr Aelodau
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.1 Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
1.2 Datgan Buddiannau
Ni chafodd unrhyw fuddiannau eu datgan.
1.3 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Medi.
2 Trosglwyddo i'r Pumed Cynulliad - croeso, ymsefydlu a datblygiad proffesiynol parhaus
Trafododd y Comisiwn bapur a oedd yn cynnwys cynigion ar gyfer trefniadau croesawu ac ymsefydlu’r Aelodau a'u staff yn dilyn etholiad y Cynulliad ym mis Mai 2016.
Ystyriodd y Comisiynwyr hefyd argymhellion ar gyfer rhaglen datblygiad proffesiynol parhaus i’r Aelodau a’u staff cymorth yn ystod y Pumed Cynulliad, yn dilyn adolygiad trylwyr o raglen DPP y Pedwerydd Cynulliad.
Roedd y rhain wedi'u seilio ar:
Cytunodd y Comisiynwyr y dylid defnyddio’r gwersi a ddysgwyd oddi wrth y trefniadau ymsefydlu a DPP yn ystod y Pedwerydd Cynulliad a’u bwydo i ddatblygiadau’r Pumed Cynulliad. Nododd y Comisiynwyr fod yr Aelodau a'u staff cymorth yn gwerthfawrogi'r cyfleoedd DPP yn fawr, a bod hyn i’w weld yn yr arolygon bodlonrwydd. Cytunwyd y byddai cyfleoedd yn cael eu cynnig i'r Aelodau yn y dyfodol mewn ffordd sy'n cydnabod eu holl gyfrifoldebau amrywiol i sicrhau bod eu hamser yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol a chan sicrhau gwerth am arian.
3 Arolwg bodlonrwydd yr Aelodau
Ystyriodd y Comisiwn ganlyniadau pedwerydd arolwg blynyddol yr Aelodau a’u staff cymorth.
Ymatebodd 33 o Aelodau a 107 o staff cymorth i'r arolwg ac, o’i gymharu ag arolwg 2014, gwelwyd bod sgôr y rhan fwyaf o'r meysydd gwasanaeth wedi codi.
Roedd y Comisiynwyr yn cydnabod y bydd y sylwadau a gafwyd yn werthfawr wrth iddynt baratoi dull strategol o wella gwasanaethau ymhellach a chytunwyd y dylid rhannu canlyniadau'r arolwg gyda’r Aelodau a’u staff.
4 Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar gyllideb ddrafft 2016-17
Cafodd y Comisiwn adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar gyllideb ddrafft y Comisiwn, a oedd wedi ei gyhoeddi.
Trafododd y Comisiynwyr brif argymhellion yr adroddiad a chytunwyd i dderbyn pob un ohonynt ac ymateb yn gadarnhaol i'r Pwyllgor Cyllid.
5 Unrhyw fater arall
Dywedodd y Llywydd ei bod wedi cael sylwadau’n holi am ymgynghoriad arfaethedig ynghylch sefydlu senedd ieuenctid. O gofio'r ymateb cadarnhaol a gafwyd i’r rhaglen ymgysylltu â phobl ifanc, byddai’n rhaid i unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol gyd-fynd â’r rhaglen honno ac adeiladu ar y gwaith rhagorol a wnaed yn y cyswllt hwnnw.